Math | pont gludo |
---|---|
Agoriad swyddogol | 12 Medi 1906 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefonnen, Pilgwenlli, Llyswyry |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.57064°N 2.98556°W |
Hyd | 197 metr |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pont gludo ar draws Afon Wysg yn ninas Casnewydd yn ne Cymru yw Pont Gludo Casnewydd. Hon yw'r unig Bont Gludo yng Nghymru; dim ond tuag ugain a adeiladwyd trwy'r byd a dim ond wyth o'r rhain sy'n parhau i gael eu defnyddio.
Fe'i cynlluniwyd gan y peiriannydd o Ffrancwr Ferdinand Arnodin, ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ar 12 Medi 1906. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn platfform neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Defnyddiwyd y math yma o bont gan fod glannau'r afon yn isel yma, a bod angen i'r bont ei hun fod yn uchel er mwyn caniatau i longau fynd oddi tani.
Caewyd y bont yn 1985, a gwariwyd £3 miliwn ar ei hadfer. Ail-agorodd yn 1995 ac mae'n parhau i gael ei defnyddio. Gall y platfform gludo 6 char a thua 120 o deithwyr.
Ar hyn o bryd (2022), mae'r bont ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw, ond mae disgwyl iddi ail-agor yn 2023.[1][2]
|title=
(help)