Pont y Cim | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0467°N 4.3375°W |
Gwleidyddiaeth | |
Mae Pontllyfni ( ynganiad ) yn bentref bychan ar arfordir gogleddol Gwynedd, ar briffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli. Y ffordd gywir o sillafu'r enw, yn ôl y Rhestr o Enwau Lleoedd, (Gwasg y Brifysgol) yw Pontlyfni. Saif lle mae Afon Llyfni yn cyrraedd y môr, ychydig i'r gorllewin o Ben-y-groes a Llanllyfni. Ystyrir yr ardal yn rhan o Ddyffryn Nantlle. Mae'n gorwedd ym mhlwyf Clynnog Fawr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]