Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,877 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9281°N 4.1333°W |
Cod SYG | W04000097 |
Cod OS | SH565385 |
Cod post | LL49 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Porthmadog[1] neu Port[2] ar lafar. Fe'i lleolir ar aber Afon Glaslyn yn Eifionydd. Saif oddeutu 7 km o Gricieth.
Mae dros 65% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Cyn adleoli 1972 arferai fod yn Sir Gaernarfon. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 4,187.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]