Logo'r brifysgol | |
Math | prifysgol, prifysgol gyhoeddus |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Almaen |
Prifysgol gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Erfurt (Almaeneg: Universität Erfurt) a leolir yn Erfurt, prifddinas talaith Thüringen.
Yn sgil ffyniant prifysgolion Prag a Fienna yn y 14g, erfynai myfyrwyr ac athrawon y studium yn Erfurt, yn ogystal â dinasyddion y ddinas, ar yr Eglwys i roddi'r un breintiau i'r hwnnw, ac felly fe'i dyrchafwyd yn brifysgol trwy fwl oddi ar y Pab Clement VII—un o wrth-babau Avignon yn ystod y Sgism Orllewinol—ym Medi 1379. Fodd bynnag, ni châi'r siarter i sefydlu'r brifysgol ei gweithredu, trwy etholiad y rheithor cyntaf, nes 1392, ar ôl i brifysgolion eraill dod i fodolaeth yn Heidelberg a Chwlen. Yn yr un cyfnod, daeth Etholyddiaeth Mainz, gan gynnwys Erfurt, dan reolaeth y Babaeth yn Rhufain, a chyhoeddwyd bwl arall i sefydlu prifysgol gan y Pab Urbanus VI ym 1389. Fodd bynnag, byddai Archesgob Mainz yn hawlio'r gangelloriaeth, yn unol â darpariaethau'r Bwl Clemennaidd, ac felly mae Prifysgol Erfurt yn dyddio'i hanes yn ôl i siarter 1379.[1]
Cyrhaeddodd Prifysgol Erfurt ei hanterth yng nghanol y 15g, pan oedd yn gartref i Johann Ruchrat von Wesel, un o brif ddiwinyddion y cyfnod rhag-Brotestannaidd. Astudiodd Martin Luther yn Erfurt o 1501 i 1505, ac yno dylanwadwyd arno'n gryf gan ddiwinyddiaeth brofiadol ei diwtoriaid. Erfurt felly oedd un o grudleoedd y Diwygiad Protestannaidd. Serch hynny, gwladwriaeth Brotestannaidd, Teyrnas Prwsia, a wnâi gau'r brifysgol o'r diwedd, a hynny ym 1816.
Ailsefydlwyd Prifysgol Erfurt ar 1 Ionawr 1994, a chychwynnodd darlithoedd ym 1999.