Primatiaid | |
---|---|
Mandril (Mandrillus sphinx) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates Linnaeus, 1758 |
Is-urddau | |
|
Mamal hollysol a phrendrig fel arfer o'r urdd Primates a nodwedddir gan ddwylo a thraed pumbys gafaelog, golwg deulygad, trwyn cwta ac ymennydd mawr yw primat (lluosog y Lladin prīmās ‘primas, cyntaf’). Esblygodd y primatiaid 85–55 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP) yn gyntaf o famaliaid bach daeardrig, ac a ymaddasodd i fyw yn y coedwigoedd trofannol. Mae llawer o nodweddion primatiaid yn nodweddiadol iawn o'r ymaddasiadau hyn i fywyd yn yr amgylchedd heriol hwn, gan gynnwys ymennydd mawr, craffter gweledol, golwg lliw, gwregys yr ysgwydd a dwylo deheuig, defnyddiol. Mae'r grŵp yn cynnwys lemyriaid, lorisiaid, galagoaid, tarsieriaid, mwncïod ac epaod (gan gynnwys bodau dynol). Ceir yr amrywiaeth fwyaf o brimatiaid yn rhanbarthau trofannol ac isdrofannol Affrica, Asia a'r Amerig. Mae'r mwyafrif ohonynt yn byw mewn coed ac mae ganddynt nifer o ymaddasiadau er mwyn dringo. Mae llawer ohonynt yn hollysol ac yn bwydo ar ffrwythau, dail ac anifeiliaid bach.
Mae primatiaid yn amrywio o ran maint o'r lemwr lleiaf, y llyglemwr madam Berthe (Microcebus berthae) 9.2 cm, sy'n pwyso 30 gram (1 oz), i'r gorila dwyreiniol (Gorilla beringei), sy'n 1.8 metr o daldra ac yn pwyso dros 200 cilogram.
Ceir rhwng 376-522 o rywogaethau o brimatiaid byw, yn dibynnu ar ba ddosbarthiad a ddefnyddir. Mae rhywogaethau newydd yn parhau i gael eu darganfod: disgrifiwyd dros 25 o rywogaethau yn y 2000au, 36 yn y 2010au, a thri yn y 2020au.
Dosberthir primatiaid yn ddau is-urdd: y strepsirrhines a'r haplorhines. Mae strepsirrinau yn cynnwys y lemyriaid, y galagos, a'r lorisiaid, tra bod haplorhinau'n cynnwys yr epaod a'r mwncïod. Gellir dosbarthu'r mwncïod (y simiaid) ymhellach i fwncïod y Byd Newydd (Platyrrhina) a mwnciod yr Hen Fyd (Catarrhina), ac epaod (gan gynnwys bodau dynol). Deugain miliwn o flynyddoedd yn ôl, ymfudodd y mwncïod (simiaid) o Affrica i Dde America yn ôl pob tebyg trwy ddrifftio ar ganghenau coed, a arweiniodd at bum teulu gwreiddiol o fwncïod y Byd Newydd. Gwahanodd gweddill y simiaid i epaod (Hominoidea) a mwncïod yr Hen Fyd (Cercopithecoidea) tua 25 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y rhywogaethau cyffredin sy'n simiaidd mae'r babŵns yr Hen Fyd, y macaco, y giboniaid, yr epaod mawr; a'r mwncïod cycyllog, mwncïod udwyr a gwiwerfwncïod (y Byd Newydd).
Mae gan y primatiaid ymennydd mawr (o'i gymharu â maint y corff) yng nghyd-destyn mamaliaid eraill, yn ogystal â dibyniaeth gynyddol ar graffter gweledol ar draul yr ymdeimlad o arogl, sef y system synhwyraidd amlycaf yn y rhan fwyaf o famaliaid. Mae'r nodweddion hyn yn fwy datblygedig mewn mwncïod ac epaod, ac yn llai amlwg mewn lorisiaid a lemyriaid. Mae gan rai primatiaid olwg trilliw.
Ac eithrio epaod (gan gynnwys bodau dynol), mae gan brimatiaid fel prosimiaid a mwncïod gynffonau. Mae gan y rhan fwyaf o brimatiaid fodiau gwrthsymudol hefyd. Mae llawer o rywogaethau yn rhywiol ddwyffurf; gall y gwahaniaethau rhngddynt gynnwys màs y cyhyrau, dosbarthiad braster, lled pelfig, maint dannedd llygad, dosbarthiad gwallt, a lliwiad. Mae primatiaid yn datblygu'n arafach na mamaliaid eraill o faint tebyg, maent yn cyrraedd aeddfedrwydd yn hwyrach yn eu hoes, ond mae ganddynt oes hirach. Yn dibynnu ar y rhywogaeth, gall oedolion fyw ar ben ei hunain, mewn parau sy'n paru, neu mewn grwpiau o hyd at gannoedd o aelodau. Mae rhai primatiaid, gan gynnwys gorilod, bodau dynol a babŵns, yn ddaeardrig yn bennaf yn hytrach nag yn brendrig, ond mae gan bob rhywogaeth ymaddasiadau er mwyn dringo coed. Ymhlith y technegau ymsymud drwy goed mae neidio o goeden i goeden a siglo rhwng canghennau coed (breichio). Mae technegau ymsymud ar y ddaear yn cynnwys cerdded ar ei bedwar, weithiau ar ei gygnau, a symudedd dwy-droed.
Mae'n debygol fod y primatiaid ymhlith yr anifeiliaid mwyaf cymdeithasol ar wyneb y Ddaear, gan eu bod yn ffurfio parau (rhai am oes), grwpiau teuluol, haremau un-gwryw, a grwpiau aml-wryw/aml-benyw. Mae'r rhan fwyaf o brimatiaid yn aros yn rhannol brendrig o leiaf: yr eithriadau yw bodau dynol, rhai epaod mawr eraill, a babŵns, pob un ohonynt wedi gadael y coed am y ddaer ac sy'n awr yn byw ym mhob cyfandir dan haul.
Gall rhyngweithio agos rhwng bodau dynol a phrimatiaid an-ddynol drosglwyddo clefydau milheintiol, yn enwedig afiechydon firws, gan gynnwys herpes, y frech goch, ebola, y gynddaredd, a hepatitis. Defnyddir miloedd o brimatiaid an-ddynol mewn llawer o labordai ledled y byd oherwydd eu tebygrwydd seicolegol a ffisiolegol i fodau dynol. Mae tua 60% o rywogaethau o brimatiaid dan fygythiad difodiant. Ymhlith y bygythiadau mwyaf cyffredin mae: datgoedwigo a hela primatiaid i'w defnyddio mewn meddyginiaethau, fel anifeiliaid anwes, neu ar gyfer bwyd. Clirio coedwigoedd trofannol ar raddfa fawr ar gyfer amaethyddiaeth yw'r bygythiad mwyaf.