Priodas gyfunryw yng Ngwlad Belg

Gwlad Belg oedd yr ail wlad i gyfreithloni priodas gyfunryw, a hynny yn 2003, dwy flynedd wedi i'r Iseldiroedd ei chyfreithloni.[1] Mae deddf 2003 yn galluogi cyplau cyfunryw o Wlad Belg i briodi ac yn cydnabod priodasau cyfunryw o wledydd eraill lle mae priodas gyfunryw yn gyfreithlon. Yn 2004 ehangwyd y ddeddfwriaeth i alluogi unrhyw cwpwl cyfunryw i briodi yng Ngwlad Belg os yw un ohonynt wedi byw yn y wlad am o leiaf tri mis.[2]

  1. (Saesneg) Belgium legalizes gay marriage. UPI (31 Ionawr 2003). Adalwyd ar 8 Mai 2013.
  2. (Saesneg) Gay Marriage Around the World (Belgium). Pew Forum (8 Chwefror 2013). Adalwyd ar 8 Mai 2013.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy