Pryf

Pryfed
Gwenynen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Is-ffylwm: Hexapoda
Dosbarth: Insecta
Linnaeus, 1758
Urddau

Is-ddosbarth Apterygota

Is-ddosbarth Pterygota

Arthropodau chwechoes bychain sy'n perthyn i'r dosbarth Insecta yw pryfed (neu drychfilod). Y pryfed yw'r dosbarth mwyaf yn y ffylwm Arthropoda sy'n cynnwys mwy nag 800,000 o rywogaethau - mwy nag unrhyw ddosbarth arall o anifeiliaid. Mae gan bryfed chwe choes. Gall fod hyd at dau bâr o adenydd ganddynt hefyd. Mae pryfed yn byw ymhob amgylchedd ar y ddaear, er mai dim ond ychydig o rywogaethau ohonynt sy'n byw yn y môr.

Mae'r cofnod cyntaf o'r gair pryf i'w gael ym Mrut y Tywysogion yn Llyfr Coch Hergest (14g): Rhyw bryfet a ddaeth y flwyddyn honno... Hen Cymraeg prem, Hen Gernyweg prif, pref ac Hen Lydaweg preff. (Gweler isod)

Mae gan bryfed allsgerbydau citinaidd, corff tair rhan (pen, thoracs ac abdomen), tri phâr o goesau cymalog, llygaid cyfansawdd ac un pâr o deimlyddion.

Pryfed yw'r grŵp mwyaf amrywiol o anifeiliaid; maent yn cynnwys mwy na miliwn o rywogaethau a ddisgrifir ac yn cynrychioli mwy na hanner yr holl organebau byw hysbys.[1] Amcangyfrifir bod cyfanswm y rhywogaethau o fewn y grwp yma rhwng chwech a deg miliwn;[2][3] credir fod dros 90% o'r anifeiliaid ar y Ddaear yn bryfed.[3][4] Gellir dod o hyd i bryfed ym mron pob amgylchedd, er mai dim ond nifer fach o rywogaethau sy'n byw yn y cefnforoedd, sy'n cael eu dominyddu gan grŵp arall o arthropod sef ycramenogion, y mae ymchwil diweddar wedi dangos bod pryfed yn byw ynddynt.

Mae bron pob pryfyn yn deor o wyau. Cyfyngir twf pryfed gan yr allsgerbwd caled a chyfres o fwrw'r haen allanol hon.

Yn aml, mae'r cyfnodau cyn-oedolyn yn wahanol i ffurf y pryf yng nghyfnod yr oedolyn, o ran adeiledd, arferiad a chynefin. Gall y cyfnod cynnar yma gynnwys bod yn chwiler yn y grwpiau hynny sy'n mynd trwy fetamorffosis pedwar cam. Nid oes gan bryfed sy'n cael metamorffosis tri cham gyfnod chwilerol lle mae'r oedolion yn datblygu trwy gyfres o gamau nymffaidd.[5] Daethpwyd o hyd i drychfilod wedi'u ffosileiddio o faint enfawr a oedd yn byw yn yr Oes Paleosöig, gan gynnwys gweision y neidr enfawr (Meganisoptera) gyda rhychwantau adenydd o 55 i 70 cm. Ymddengys fod y grwpiau trychfilod mwyaf amrywiol wedi cyd-esblygu â phlanhigion blodeuol.

Mae pryfed llawn dwf fel arfer yn symud o gwmpas trwy gerdded, hedfan, neu weithiau nofio. Gan ei fod yn caniatáu symudiad cyflym ond sefydlog, mae llawer o bryfed wedi mabwysiadu cerddediad tripedal. Pryfed yw'r unig infertebratau sydd wedi esblygu i hedfan, ac mae'r holl bryfed sy'n hedfan yn deillio o un hynafiad cyffredin. Mae llawer o bryfed yn treulio o leiaf rhan o'u bywydau dan ddŵr, gydag addasiadau larfal sy'n cynnwys tagellau, ac mae rhai pryfed llawndwf yn ddyfrol ac mae ganddynt addasiadau ar gyfer nofio. Mae rhai rhywogaethau, megis y brasgamwyr dŵr (y Gerridae), yn gallu cerdded ar wyneb dŵr. Mae rhai pryfed, fel rhai gwenyn, morgrug a morgrug gwyn, yn gymdeithasol ac yn byw mewn cytrefi mawr, trefnus. Mae eraill fel y pry clustiog (y Gerridae) yn dangos gofal mamol, yn gwarchod eu hwyau a'u cywion.

Gall pryfed gyfathrebu â'i gilydd mewn amrywiaeth o ffyrdd: gall gwyfynod gwrywaidd synhwyro fferomonau gwyfynod benywaidd dros bellteroedd mawr. Mae rhywogaethau eraill yn cyfathrebu â synau ee mae cricediaid yn brasgamu, neu'n rhwbio eu hadenydd at ei gilydd, i ddenu cymar a dychryn gwrywod eraill. Mae chwilod lampyrid yn cyfathrebu â golau.

Mae bodau dynol yn ystyried rhai pryfed yn bla, ac yn ceisio eu rheoli gan ddefnyddio pryfleiddiaid, a llu o dechnegau eraill. Gall rhai pryfed niweidio cnydau trwy fwydo ar sudd, dail, ffrwythau neu bren. Mae rhai rhywogaethau'n barasitig, a gallant rannu clefydau. Ystyrir fod rhai pryfed yn cyflawni gwaith ecolegol cymhleth; mae'r Calliphoridae, er enghraifft, yn helpu i fwyta celanedd (cyrff marw) ond hefyd yn lledaenu clefydau. Ceir pryfed peillio sy'n hanfodol i gylchred bywyd llawer o rywogaethau o blanhigion blodeuol y mae'r rhan fwyaf o organebau, gan gynnwys bodau dynol, o leiaf yn rhannol ddibynnol arnynt; hebddynt, byddai rhan ddaearol y biosffer yn cael ei ddinistrio.

Wrth gwrs, mae pryfed sidan yn cynhyrchu sidan ac mae gwenyn mêl yn cynhyrchu mêl ac mae'r ddau wedi'u dofi gan bobl. Bwyteir pryfed mewn 80% o wledydd y byd, a hynny mewn tua 3,000 o grwpiau ethnig.[6][7] Mae gweithgareddau dynol hefyd yn effeithio ar fioamrywiaeth pryfed.

  1. Wilson, E.O. "Threats to Global Diversity". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 February 2015. Cyrchwyd 17 May 2009.
  2. Novotny, Vojtech; Basset, Yves; Miller, Scott E.; Weiblen, George D.; Bremer, Birgitta; Cizek, Lukas; Drozd, Pavel (2002). "Low host specificity of herbivorous insects in a tropical forest". Nature 416 (6883): 841–844. Bibcode 2002Natur.416..841N. doi:10.1038/416841a. PMID 11976681.
  3. 3.0 3.1 Erwin, Terry L. (1997). Biodiversity at its utmost: Tropical Forest Beetles (PDF). tt. 27–40. Cyrchwyd 16 December 2017. In: Reaka-Kudla, M.L.; Wilson, D.E.; Wilson, E.O., gol. (1997). Biodiversity II. Joseph Henry Press, Washington, D.C. ISBN 9780309052276.
  4. Erwin, Terry L. (1982). "Tropical forests: their richness in Coleoptera and other arthropod species". The Coleopterists Bulletin 36: 74–75. https://repository.si.edu/bitstream/handle/10088/4383/Classic_papers_in_Foundations.pdf?sequence=1&isAllowed=y. Adalwyd 16 September 2018.
  5. "insect physiology" McGraw-Hill Encyclopedia of Science and Technology, Ch. 9, p. 233, 2007
  6. "Insects could be the key to meeting food needs of growing global population". the Guardian (yn Saesneg). 2010-07-31. Cyrchwyd 2022-01-13.
  7. Ramos-Elorduy, Julieta; Menzel, Peter (1998). Creepy crawly cuisine: the gourmet guide to edible insects. Inner Traditions / Bear & Company. t. 44. ISBN 978-0-89281-747-4. Cyrchwyd 23 April 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy