R. Tudur Jones | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1921 Cricieth |
Bu farw | 23 Gorffennaf 1998 |
Man preswyl | Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd |
Diwinydd a hanesydd eglwysig o Gymru oedd y Parchedig Brifathro Robert Tudur Jones BA BD D.Phil D.Litt DD (28 Mehefin 1921 – 23 Gorffennaf 1998). Fe'i ganwyd yn y Tyddyn Gwyn, Rhoslan, Cricieth, yn fab hynaf i John Thomas ac Elizabeth Jones. Bu dylanwad diwygiad 1904-1905 yn drwm ar ei rieni ac felly gellir cymryd yn ganiataol bod crefydda yn fwy na defod ddiwylliannol yn unig i'r teulu. Gyda Tudur dal yn ifanc bu i ofynion gwaith orfodi'r teulu i symud i'r Rhyl, yn gyntaf i dŷ yn ymyl Pont y Foryd ac wedi hynny ymsefydlu mewn tŷ mwy ar Princes Street. Erbyn hyn roedd ganddo frawd a chwaer iau, John Ifor a Meg. Gweithio fel gard rheilffordd i'r LMS oedd ei dad ac o blegid byw'n syml, yn blaen ac yn ofalus oedd yn reidrwydd i'r teulu.
Yn y Rhyl deuai'r byd Cymraeg a Saesneg ynghyd. Saesneg oedd iaith ysgol Christ Church a diwylliant poblogaidd y dref, ond y Gymraeg oedd iaith y cartref a'r capel. Mynychu capel Carmel yr Annibynwyr oedd teulu Tudur; y gweinidog yno bryd hynny oedd T. Ogwen Griffith – gwr efengylaidd ei ogwydd oedd yn atyniad, bid siŵr, i ysbrydolrwydd rhieni Tudur. Yn y blynyddoedd cynnar yma yng Ngharmel y daeth ei ddoniau a'i allu anarferol i'r amlwg gyntaf a hynny drwy gofio ac adrodd adnodau yn y Capel. Yr arfer ar y pryd oedd i bob plentyn adrodd adnod neu ddwy; rhoes Tudur gynnig ar adrodd penodau cyfan. Bu rhaid i'w Dad roi'r caead ar y sospan pan gyhoeddodd un diwrnod ei fod am fynd ati i ddysgu'r Salm fawr o'i gof! Nododd D. Densil Morgan fod '...tynerwch ei fam (a fu farw yn gwbl annisgwyl yn 1932 yn 44 oed), cadernid ei dad a chymdeithas aelwyd a chapel yn ddylanwadau ffurfiannol arno.'