Ras yr Iaith

Ras yr Iaith
Enghraifft o'r canlynolras ar droed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
SylfaenyddSiôn Jobbins Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ras gyfnewid hwyliog er lles y Gymraeg yw Ras yr Iaith a sefydlwyd gan Siôn Jobbins, ar batrwm rasys iaith eraill fel ar Redadeg (Llydaw), Korrika (Gwlad y Basg) a'r Rith (Iwerddon). Trefnwyd Ras yr Iaith 2014 gan wirfoddolwyr lleol o dan arweiniad Cered: Menter Iaith Ceredigion ond bellach mae wedi tyfu y tu hwnt i Geredigion ac mae'n cael ei gydlynu yn genedlaethol gan Fentrau Iaith Cymru. Un o amcanion y ras yw codi arian, ac mae unrhyw elw a wneir yn cael ei fuddsoddi ar ffurf grantiau i hyrwyddo'r Gymraeg yn ardal y Ras.

Hanes y Korrika, a ysbrydolodd Siôn Jobbins i gychwyn Ras yr Iaith.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy