Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Cynhaliwyd refferendwm ar ymestyn pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru ar 3 Mawrth 2011. Gofynnodd y refferendwm y cwestiwn hwn: "A ydych yn dymuno i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?"

Os caiff pleidlais 'ydw' ar y cyfan, bydd y Cynulliad â'r gallu i lunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc heb orfod cael caniatâd Llywodraeth y DU. Os caiff pleidlais 'nac ydw' ar y cyfan, ni ddigwyddith unrhyw beth a bydd y system sydd gan Gymru yn parhau.[1][2]

Cyhoeddwyd canlyniadau'r refferendwm ar 4 Mawrth 2011. Ar y cyfan, pleidleisiodd 63.49% 'ydw', a phleidleisiodd 36.51% 'nac ydw'. 'Ydw' oedd y bleidlais mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol, gyda'r eithriad i Sir Fynwy. Ar y cyfan, pleidleisiodd 35.2% o Gymru. Croesawodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y canlyniad, gan ddywedyd: "Heddiw, fe gafodd hen wlad ei pharch."

  1. Am beth y mae'r refferendwm yn sôn? Archifwyd 2011-02-28 yn y Peiriant Wayback o'r Comisiwn Etholiadol
  2. Fideo'r BBC gyda gwybodaeth ynglŷn â deddfu yng Nghymru ar y meysydd pynciau nad ydynt yn ddatganoledig.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in