Enghraifft o'r canlynol | golwg lliw, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | layer of wall of eyeball, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | llygad, chorioretinal region |
Cysylltir gyda | choroid, vitreous humour |
Yn cynnwys | retinal cell |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y retina (hefyd rhwyden) yw'r haen fwyaf mewnol o belen y llygad ac sy'n bilen oleusensitif amlhaenog dyner. Mae opteg y llygad yn creu delwedd o'r byd gweledol ar y retina (trwy'r cornbilen a'r lens), sy'n gweithio mewn ffordd nid annhebyg i ffilm mewn camera.
Mae'r golau sy'n taro'r retina yn creu rhaeadr o ddigwyddiadau cemegol a thrydanol sydd yn y pen draw yn achosi cynhyrfiadau nerfol. Mae rhain yn cael eu hanfon i wahanol ganolfannau gweledol yn yr ymenydd drwy ffibrau'r nerf optig. Mae'r retina nerfol fel arfer yn cyfeirio at dair haen o gelloedd nerfol (ffotodderbynyddion [rhodenni a chonau], celloedd deubegwn a chelloedd ganglion) o fewn i'r retina, tra fod y retina cyfan yn cyfeirio at yr haenau hyn ynghyd â haen o gelloedd epithelaidd pigmentog.[1]