Math | tref farchnad |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhayader |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Gwy |
Cyfesurynnau | 52.31°N 3.5°W |
Cod OS | SN975685 |
Cod post | LD6 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Tref wledig a chymuned yng ngorllewin Powys, Cymru, yw Rhaeadr Gwy[1] (Saesneg: Rhayader). Mae'n gorwedd ar lannau Afon Gwy tua 20 milltir o'i tharddiad ar fynydd Pumlumon.
Lleolir y dref ar groesffordd yr A470 a'r B4574 yng nghanolbarth Cymru, 13 milltir i'r gogledd o Llanfair-ym-Muallt. Disgrifir y B4574, sef y ffordd fynyddig i Aberystwyth, gan yr AA, fel "un o'r deg gyrfeydd mwyaf golygfaol yn y byd".[2][3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[5]