Rhestr o safleoedd ioga

Rhestr o safleoedd ioga
Enghraifft o'r canlynolerthygl sydd hefyd yn rhestr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysrhestr o asanas ioga Hatha Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o safle (posture) neu osgo'r corff mewn ioga yw asana, a geir o fewn ioga hatha traddodiadol neu o fewn ioga modern.[1] Mae'r term yn deillio o'r gair Sansgrit am 'sedd'. Er bod llawer o'r asanas hynaf a grybwyllir yn wir yn safleoedd ar gyfer myfyrdod, gall yr asana fod yn sefyll, yn eistedd, cydbwyso ar freichiau, troelli, gwrthdroadau, troadau ymlaen, plygu'r cefn yn ôl, neu'n lledu cluniau mewn safleoedd wyneb i lawr neu ar wastad y cefn. Mae'r asanas wedi cael amryw o enwau cyffredin, gan wahanol ysgolion dros y blynyddoedd.[2]

Mae'r nifer traddodiadol o asanas yn symbolaidd, sef 84, ond mae gwahanol destunau'n nodi detholiadau, gwahanol, gan restru eu henwau weithiau heb eu disgrifio.[3] Mae llawer wedi cael eu hadnabod gan amrywiaeth o enwau, gan ei gwneud hi'n anodd olrhain ac aseinio dyddiadau.[4] Er enghraifft, mae'r enw Muktasana bellach yn cael ei roi i amrywiad o Siddhasana gydag un troed o flaen y llall, ond mae hefyd wedi'i ddefnyddio ar gyfer Siddhasana ac ystumiau myfyrdod traws-goes eraill.[3][5][4] Weithiau, mae gan enwau yr un ystyr, ee Bidalasana a Marjariasana, lle mae'r ddau'n golygu osgo cath.[6][7]

  1. Singleton 2010, tt. 4–5.
  2. Murugan 2012.
  3. 3.0 3.1 Bühnemann, Gudrun (2007). Eighty-Four Asanas in Yoga: A Survey of Traditions. New Delhi: D. K. Printworld. tt. 47, 151. ISBN 978-8124604175.
  4. 4.0 4.1 Sjoman 1999.
  5. "Muktasana". Yogapedia. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2018.
  6. Lidell 1983.
  7. "Cat Pose – Marjariasana". Akasha Yoga. Cyrchwyd 13 Ionawr 2019.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy