Enghraifft o'r canlynol | Oes yr Iâ |
---|---|
Yn cynnwys | Illinoian |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfres o tua hanner cant o gyfnodau rhewlifol am yn ail â chyfnodau rhyngrewlifol yw rhewlifiant Cwaternaidd (hefyd rhewlifiant Pleistosen), neu ar lafar yr Oes Iâ Fawr. Seiliwyd dechrau'r cyfnod Cwaternaidd ar ddechrau'r rhewlifiant hwn: 2.58 miliwn o flynyddoedd CP ac mae'n parhau hyd heddiw. Bathwyd y term gan Schimper yn 1839.[1] Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd y llenni iâ yn enwedig oddeutu Antarctica a'r Ynys Las, a chafwyd llenni iâ'n tonni mewn mannau eraill hefyd e.e. llenni iâ Laurentide. Prif effaith yr oes iâ oedd erydiad a gwaddodi deunydd dros ran helaeth o'r cyfandiroedd, addasu systemau afonydd, ffurfio llawer o lynnoedd newydd, newid isostatig yng nghramen y Ddaear, gwyntoedd annormal yn ogystal â chodi lefel y môr. Mae'r Rhewlifiant cwaternaidd hefyd yn effeithio'r moroedd, llifogydd a chymunedau biolegol. Mae'r llenni iâ'n codi'r albedo a thrwy hyn yn effeithio ar dymheredd yr amgylchedd.