Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 11,469 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5211°N 3.214°W |
Cod SYG | W04000858 |
Cod post | CF14 |
AS/au y DU | Anna McMorrin (Llafur) |
Maestref a chymuned yng Nghaerdydd yw Rhiwbeina ( ynganiad ) (Saesneg: Rhiwbina). Mae'n ardal ffynianus yng ngogledd y ddinas a bu'n bentref ar wahân ar un adeg.
Tua diwedd yr 11g, lladdwyd Iestyn ap Gwrgant, tywysog olaf Teyrnas Morgannwg, mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn yr ardal. Cofir am y frwydr yn yr enw Rhyd Waedlyd, ar ffrwd fechan yn Rhiwbeina.