Etholaeth Senedd Cymru | |
---|---|
Lleoliad Rhondda o fewn Canol De Cymru | |
Math: | Senedd Cymru |
Rhanbarth | Canol De Cymru |
Creu: | 1999 |
AS presennol: | Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur) |
AS (DU) presennol: | Chris Bryant (Llafur) |
Mae Rhondda yn un o etholaethau Senedd Cymru ac sy'n ethol un aelod drwy ddefnyddio'r dull cyntaf i'r felin o ethol ymgeiswyr. Mae hefyd yn un o 8 etholaeth yn Rhanbarth Canol De Cymru, sy'n ethol pedwar AS ychwanegol gan ddefnyddio'r dull aelodau ychwanegol (Additional Member System) ar ben yr wyth arall. Fel hyn, ceir elfen o gynrychiolaeth gyfrannol.
Yr aelod presennol dros yr etholaeth yn y Senedd yw Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur).
Crëwyd yr etholaeth hon ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999; mae ei ffiniau wedi'i sefydlu ar etholaeth a oedd yno o'i blaen, sef etholaeth Rhondda (etholaeth seneddol) a etholai Aelod Seneddol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin yn Llundain.