Clocwedd o'r brig: Mynydd Maerdy ger Maerdy, glan afon ger Aberpennar, ac Eglwys y Santes Gatrin ym Mhontypridd | |
Math | prif ardal |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Rhondda, Afon Cynon, Afon Taf |
Prifddinas | Cwm Clydach |
Poblogaeth | 240,131 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Nürtingen, Wolfenbüttel |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 424.1503 km² |
Yn ffinio gyda | Dinas a Sir Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Powys, Castell-nedd Port Talbot |
Cyfesurynnau | 51.65°N 3.44°W |
Cod SYG | W06000016 |
GB-RCT | |
Bwrdeistref sirol yn ne Cymru yw Rhondda Cynon Taf. Daeth i fodolaeth gydag adrefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996. Mae'n ffinio â Merthyr Tudful a Chaerffili yn y dwyrain, Caerdydd a Bro Morgannwg yn y de, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn y gorllewin, a Phowys yn y gogledd. Y prif drefi yw Aberdâr, Aberpennar a Phontypridd.
Mae canlyniadau cyfrifiad 2011 yn dangos bod 19.1% o’i 234,410 o drigolion yn hunan-nodi bod ganddynt rywfaint o allu yn y defnydd o’r Gymraeg.[1] Mae'r fwrdeistref sirol yn ffinio â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdeistref Sirol Caerffili i'r dwyrain, Caerdydd a Bro Morgannwg i'r de, Bwrdeistref Sirol Pen- y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot i'r gorllewin a Phowys i'r gogledd. Ei phrif drefi yw Aberdâr, Llantrisant, Tonysguboriau, Phontypridd, a cheir trefi eraill gan gynnwys - Maerdy, Glynrhedynog, Hirwaun, Llanharan, Aberpennar, Porth, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci.
Y dref unigol fwyaf poblog yn Rhondda Cynon Taf yw Aberdâr gyda phoblogaeth o 39,550 (2011), ac yna Pontypridd gyda 32,694 (2011). Yr ardal drefol fwyaf fel y’i diffinnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw ardal Tonypandy, gyda phoblogaeth o 62,545 (2011), sy’n cynnwys llawer o Gwm Rhondda.[2]
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf yn 2024, wedi iddi gael ei gohirio ddwywaith o 2022 oherwydd y Gofid Mawr.[3]