Rhos-y-bol

Rhos-y-bol
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,078, 1,050 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,019.399 ±0.001 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlanddyfnan, Llaneilian, Mechell, Llannerch-y-medd, Cymuned Amlwch, Tref Alaw, Moelfre Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.368°N 4.368°W, 53.360895°N 4.358259°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000035 Edit this on Wikidata
Cod OSSH4316587483 Edit this on Wikidata
Cod postLL68 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan a chymuned ar Ynys Môn yw Rhos-y-bol[1][2] (neu Rhosybol). Saif yng ngogledd yr ynys ar y B5111, hanner ffordd rhwng Amlwch i'r gogledd a Llannerch-y-medd i'r de.

Pentref estynedig sy'n gorwedd o neilldu'r lôn ydyw. Mae'r pentref yn rhan o blwyf eglwysig Amlwch. Tri chwarter milltir i'r gorllewin ceir pen dwyreiniol Llyn Alaw, ond does dim mynediad hawdd iddo o Rosybol. Milltir a hanner i'r gogledd o Rosybol ceir Mynydd Parys sy'n enwog am ei hen gloddfeydd copr.

Rhosybol

Ceir Siop yng nghanol y pentref, sydd yno ers degawdau, ac mae'r ysgol (Ysgol Gymuned Rhosybol) wedi'i lleoli ychydig i'r gogledd o'r canol.

Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf Rhosybol
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Comisiynydd/enwaulleoedd/Pages/Manylion.aspx?pnid=13887[dolen farw]

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in