Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llangywer |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.899°N 3.571°W |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref bychan yn ardal Meirionnydd, Gwynedd yw Rhos-y-gwaliau ( ynganiad ), a leolir tua milltir a hanner i'r de-ddwyrain o'r Bala. Tu ôl i'r pentref cyfyd bryniau'r Berwyn. Mae ffrwd Hirnant yn llifo o grib y Berwyn i lawr i ymuno yn Afon Dyfrdwy gan ffurfio Cwm Hirnant; saif y pentref yn rhan isaf y cwm cul hwnnw.
Ceir capel Methodistaidd Rhos-y-gwaliau yn y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]