Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 8,610 |
Gefeilldref/i | Breuillet |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 311.78 ha |
Cyfesurynnau | 51.8°N 3.993°W |
Cod SYG | W04000491 |
Cod OS | SN625125 |
Cod post | SA18 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Tref a chymuned yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Rhydaman (Saesneg: Ammanford). Mae ganddi 5,411 o drigolion (Cyfrifiad 2011), 75.88% ohonynt yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001. Mae'r dref wedi'i leoli ar ddiwedd Dyffryn Aman. Roedd Rhydaman yn dref cloddio glo ond erbyn heddiw mae'n ganolbwynt i'r ardal wrth gynnwys amrywiaeth o siopau, bwytai a pharc. Mae Rhydaman wedi gefeillio gyda â Breuillet, Essonne.
Mae'r prif heolydd A483 a A474 yn rhedeg i Rydaman. Mae Gorsaf reilffordd Rhydaman ar llinell Rheilffordd Calon Cymru gyda threnau yn teithio i Lanelli, Abertawe un ffordd a'r Amwythig i'r ffordd arall.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]