![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel ![]() |
---|---|
Rhan o | Rhyfeloedd y Tair Teyrnas ![]() |
Dechreuwyd | 1642 ![]() |
Daeth i ben | 3 Medi 1651 ![]() |
Lleoliad | Teyrnas Lloegr ![]() |
Yn cynnwys | Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr, Trial of Charles I, King of England, Scotland and Ireland ![]() |
![]() |
Ymladdwyd Rhyfel Cartref Lloegr rhwng 1642 a 1651. Mewn gwirionedd roedd yn dri rhyfel cartref: Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–6), Ail Ryfel Cartref Lloegr (1648–9) a Thrydydd Rhyfel Cartref Lloegr Rhyfel (1650–51). Roedd y rhyfeloedd yn Lloegr yn rhan o gyfres o ryfeloedd a elwir yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas, yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cyngheiriaid Iwerddon (1642–9).
Roedd Cymru wedi ei hymgorffori yn groes i'w hewyllys yn nheyrnas Lloegr ar y pryd, o ganlyniad i Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1535 a 1542 (a elwid ers talwm yn 'Ddeddfau Uno') ac ystyrir yr ymladd yng Nghymru yn rhan o Ryfel Cartref Lloegr.
Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin Siarl I o Loegr a'r Alban (neu Charles) a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Ymladdwyd y rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell yn y pen draw, dros y Brenhinwyr yn Lloegr, yna yn yr Alban ac Iwerddon hefyd.