Rhyfel cartref a ymladdwyd dros reolaeth y Ffindir rhwng carfanau'r Gwynion (Y Ffindir Wen) a'r Cochion (Gweriniaeth Gweithwyr Sosialaidd y Ffindir) oedd Rhyfel Cartref y Ffindir a barodd o Ionawr i Fai 1918.
Yn sgil cwymp Ymerodraeth Rwsia a'r Chwyldro Bolsieficaidd, datganwyd annibyniaeth y Ffindir yn Rhagfyr 1917. Er yr oedd ennill sofraniaeth oddi ar Rwsia yn broses heddychlon ynddi ei hun, ni lwyddodd y wladwriaeth newydd i osgoi gwrthdaro mewnol. Rhagflaenwyd y rhyfel gan sawl ysgarmes rhwng comiwnyddion y Gwarchodlu Coch a chenedlaetholwyr y Corfflu Amddiffynnol, er enghraifft yn Viipuri ar 19 Ionawr.[1] Wedi i'r adain chwyldroadol ennill rheolaeth ar y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol, aethant ati i gipio'r brifddinas Helsinki a threfi diwydiannol mawr ar draws deheubarth y Ffindir ar 28 Ionawr 1918. Ffoes y llywodraeth adain-dde, dan arweiniad y Prif Weinidog Pehr Evind Svinhufvud o'r Blaid Geidwadol, i Vaasa yng ngorllewin y wlad. Daeth y gorllewin yn gadarnle i'r Gwynion wrthsefyll chwyldro'r Cochion (benthycwyd yr enwau o'r carfanau tebyg yn Rhyfel Cartref Rwsia),[2] ac yno cynlluniwyd gwrthymosodiad gan y Fyddin Wen dan gyfarwyddiaeth y Cadfridog Carl Gustaf Mannerheim.
Yr oedd niferoedd y ddwy ochr mwy neu lai yn gyfartal: 76,000 o Gochion, a 70,000 o Wynion.[3] Enillodd Mannerheim frwydr yn Tampere yn nechrau Awst, ac yna llwyddodd i ailgipio Helsinki gyda chymorth lluoedd Almaenig. Daeth y gwrthdaro yn rhyfel trwy ddirprwy, gyda'r Cochion yn derbyn cymorth oddi ar luoedd comiwnyddol Rwsia. Bu farw 3,500 o Wynion a 5,700 o Gochion yn yr ymladd, ac hefyd 400–500 o Almaenwyr a 800–900 o Rwsiaid. Erbyn canol Mai, cafodd y gwrthryfel comiwnyddol ei ostegu'n llwyr gan y Gwynion, gan ddod â'r rhyfel cartref i ben.
Yn ystod yr adladd, rhoddwyd y chwyldroadwyr ar brawf a derbyniasant ddedfrydau llym. Erbyn diwedd y flwyddyn, bu farw rhyw 20,000 o'r Cochion naill ai drwy ddienyddio neu mewn gwersylloedd carcharorion.