Dechreuodd y gwrthdaro ar ôl i Hizballah saethu rocedi Katyusha a morterau tuag at bentrefi Israelaidd ar y goror rhwng Israel a Libanus,[20] i ddargyfeirio sylw o uned Hizballah arall a gipiodd dau filwr Israelaidd, a lladd tri arall. Dywedodd Hizballah iddynt gipio'r milwyr y tu fewn i Libanus. Ceisiodd lluoedd Israel achub y milwyr ond roeddent yn aflwyddiannus, a chollant bump arall yn yr ymgais. Anafwyd pum milwr a phum sifiliad arall yn yr ymosodiadau. Ymatebodd Israel gyda chyrchoedd awyr a thân arfau trwm ar dargedau yn Libanus, a difrodwyd adeiladau Libanaidd gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Rafik Hariri a ddefnyddiodd Hizballah i fewnfudo arfau yn ôl awdurdodau Israel, cafwyd blocâd awyr a llyngesol,[21] a goresgynnwyd tir de Libanus. Yna lawnsiodd Hizballah mwy o rocedi i ogledd Israel a buont yn rhyfela'n herwfilwrol yn erbyn Lluoedd Amddiffyn Israel.[22][23]
↑ Herbert Docena (17 Awst, 2006). Amid the bombs, unity is forged. Asia Times Online. "The LCP...has itself been very close to Hezbollah and fought alongside it in the frontlines in the south. According to Hadadeh, at least 12 LCP members and supporters died in the fighting."