Ymladdwyd Rhyfel y Crimea o Hydref 1853 hyd at Chwefror 1856)[1][2] rhwng Ymerodraeth Rwsia a chynghrair o wledydd gan gynnwys Ail Ymerodraeth Ffrainc, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Ymerodraeth yr Otomaniaid a Brenhiniaeth Sardinia. Ymunodd Prydain a Ffrainc yn y rhyfel ar 27 Mawrth, 1854. Roedd Ymerodraeth Awstria yn niwtral, ond chwaraeodd ran blaenllaw a dylanwadol yn y rhyfel. Mae llyfrau hanes yn nodi mai'r gynghrair a "enillodd" y rhyfel.
Newidiwyd y rhan hon o Ewrop gan y rhyfel oherwydd symud pobloedd, sefydlu mudiadau cenedlaetholgar a thrwy greu ffiniau i wledydd megis Wcráin, Moldofa, Bwlgaria, Romania, Gwlad Groeg, Twrci, Aserbaijan, Armenia, Georgia, a mannau fel Penrhyn y Crimea a'r Cawcasws.[3]
Gellir cloriannu Rhyfel Crimea mewn un gair: "methiant" - o ran meddygaeth, tacteg brwydro a'r niferoedd a laddwyd, ond i'r Gynghrair, llwyddiant oedd y cyfan - yn enwedig gan iddynt lwyddo i ddifetha bron y cyfan o lynges Rwsia a chynnal gwarchae forwrol yn y Môr Baltig. Mae rhai'n ei alw y rhyfel "modern" cyntaf oherwydd y defnydd o dechnoleg newydd ac effeithiol: y rheilffyrdd a'r teligraff.[4] Serenodd Betsi Cadwaladr, Florence Nightingale a Mary Seacole, drwy dorri dir newydd yn eu gofal o gleifion. Am y tro cyntaf yn hanes rhyfeloedd, cofnodir llawer ohono mewn ffotograffau a chofnodion eraill.