Richard Arkless

Richard Arkless

Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Russell Brown
Olynydd Alister Jack

Geni (1975-07-07) 7 Gorffennaf 1975 (49 oed)
Stranraer, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Dumfries a Galloway
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Richard Arkless (ganwyd 7 Gorffennaf 1975) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Dumfries a Galloway; mae'r etholaeth yn siroedd: Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark, yr Alban. Mae'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Cafodd ei eni yn 1975 yn Stranraer (Gaeleg: 'An t-Sròn Reamhar'), yn swydd Dumfries a Galloway.[1] Treuliodd ychydig amser gyda'r teulu yn Llundain, pan oedd yn fachgen.[1] Dychwelodd i Stranraer pan oedd yn wyth oed.[1]

Mae ganddo radd BA mewn Arianneg, o Brifysgol Caledonian Glasgow a gradd yn y gyfraith (LLB) o Brifysgol Ystrad Clud.[2]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Your MP elect: Richard Arkless". itv News. 8 Mai 2015. Cyrchwyd 9 Mai 2015.
  2. "My CV". richardarkless.scot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-09. Cyrchwyd 9 Mai 2015.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy