Math | mynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | British Columbia, Alberta, Idaho, Montana, Wyoming, Utah, Colorado, Mecsico Newydd |
Gwlad | Canada, Unol Daleithiau America |
Uwch y môr | 4,401 metr |
Cyfesurynnau | 44.5°N 113.5°W |
Hyd | 3,000 cilometr |
Cyfnod daearegol | Cretasaidd, Cyn-Gambriaidd |
Cadwyn fynydd | American Cordillera |
Deunydd | craig fetamorffig, craig igneaidd, craig waddodol |
Mynyddoedd sy'n ymestyn ar hyd ochr orllewinol Gogledd America yw'r Rockies[1] neu'n achlysurol Mynyddoedd Creigiog[2] (Saesneg: Rocky Mountains). Maent yn ymestyn am dros 4,800 km (3,000 o filltiroedd) o ran ogleddol British Columbia, Canada, hyd New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Y mynydd uchaf yw Mynydd Elbert, Colorado, sy'n 4,401 m (14,440 troedfedd) o uchder. I'r dwyrain o'r Rockies mae'r Gwastadeddau Mawr.
Dyma'r system fynyddoedd fwyaf yng Ngogledd America. Mae ei bwynt mwyaf deheuol ger ardal Albuquerque ger Basn Rio Grande.
Ffurfiwyd y Rockies 80 miliwn i 55 miliwn o flynyddoedd yn ôl (Cyn y Presennol) yn ystod y Cretasaidd Hwyr, pan ddechreuodd nifer o blatiau tectonig lithro o dan blât Gogledd America. Roedd ongl y subduction yn fas, gan arwain at gadwyn eang o fynyddoedd yn codi ar hyd gorllewin Gogledd America. Ers hynny, mae gweithgaredd tectonig pellach ac erydiad gan rewlifoedd wedi cerflunio'r Rockies yn gopaon a chymoedd dramatig. Ar ddiwedd yr oes iâ ddiwethaf (Rhewlifiant Cwaternaidd) dechreuodd bodau dynol fyw yn y mynyddoedd hyn. Ar ôl i Ewropeaid fel Syr Alexander Mackenzie, a Lewis a Clark archwilio'r gadwen, ecsbloitiwyd y mynydoedd o'u hadnoddau naturiol ee mwynau a ffwr ond ni chafwyd gor-drefoli yma erioed.
O'r 100 copa uchaf ym Mynyddoedd y Rockies, mae 78 (gan gynnwys y 30 uchaf) wedi'u lleoli yn nhalaith Colorado, deg yn Wyoming, chwech ym Mecsico Newydd, tri yn Montana, ac un yn Utah. Amddiffyn llawer o'r mynyddoedd gan barciau cyhoeddus a choedwigoedd ac maent yn gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid, yn enwedig ar gyfer heicio, gwersylla, mynydda, pysgota, hela, beicio mynydd, cysgodi eira, sgïo ac eirafyrddio.