Ron Davies | |
| |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
| |
Cyfnod yn y swydd 3 Mai 1997 – 27 Hydref 1998 | |
Rhagflaenydd | William Hague |
---|---|
Olynydd | Alun Michael |
Aelod Seneddol dros Gaerffili
| |
Cyfnod yn y swydd 1983 – 2001 | |
Aelod Cynulliad dros Gaerffili
| |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 3 Mai 2003 | |
Geni | Machen, Cwm Rhymni | 6 Awst 1946
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Tadogaethau gwleidyddol eraill |
Annibynnol (2003–2009) Y Blaid Lafur (DU) (hyd 2003) |
Alma mater | Polytechnig Portsmouth |
Gwleidydd o Gymru yw Ron Davies (ganwyd 6 Awst 1946). Caiff ei adnabod yn bennaf fel 'pensaer datganoli' gan mai ef, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd yn Llywodraeth Lafur newydd Tony Blair, a lywiodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy Dŷ'r Cyffredin ar ôl i bobl Cymru bleidleisio o blaid datganoli mewn refferendwm ym 1997. Ef hefyd ddywedodd mai "proses yw datganoli, nid digwyddiad": roedd o'r farn ym 1997 wrth i Gymru bleidleisio dros Gynulliad y byddai angen cyfres o ddeddfau er mwyn trosglwyddo grymoedd i Gymru dros gyfnod o amser, ac na fyddai'r Cynulliad fel yr oedd ar y pryd yn ddigonol yn yr hirdymor.