Rwsia

Rwsia
Российская Федерация
Rossyîskaia Ffederatsyîa
ArwyddairDatgelwch eich Rwsia eich hun Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth seciwlar, gwlad, Gwlad drawsgyfandirol, talaith ffederal, gwladwriaeth olynol Edit this on Wikidata
PrifddinasMoscfa Edit this on Wikidata
Poblogaeth145,975,300 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemGimn Rossiyskoy Federatsii Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMikhail Mishustin Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
NawddsantAndreas Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, Dwyrain Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd17,075,400 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Arctig, Y Môr Du, Môr Caspia, Môr Azov, East Siberian Sea, Môr Barents, Môr Chukchi, Shantar Sea, Môr Kara, Pechora Sea, Môr Japan, Môr Bering, Môr Gwyn, Môr Okhotsk, Môr Laptev, Queen Victoria Sea Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAserbaijan, Belarws, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Estonia, Y Ffindir, Georgia, Casachstan, Latfia, Lithwania, Gogledd Corea, Norwy, Japan, Unol Daleithiau America, Wcráin, Mongolia, Gwlad Pwyl, yr Undeb Ewropeaidd, Sweden Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau66.42°N 94.25°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Ffederal Ffederasiwn Rwsia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Ffederasiwn Rwsia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethVladimir Putin Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Rwsia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMikhail Mishustin Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$1,836,892 million, $2,240,422 million Edit this on Wikidata
ArianRŵbl Rwsiaidd Edit this on Wikidata
Canran y diwaith4.496, 5.589, 4.715, 3.867 Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.7 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.822 Edit this on Wikidata

Gwlad drawsgyfandirol sy'n ymestyn dros ran fawr o ogledd Ewrasia (Ewrop ac Asia) yw Ffederasiwn Rwsia (Rwsieg: Росси́йская Федера́ция, Rossiyskaya Federatsiya) neu Rwsia (Росси́я, Rossiya). Gydag arwynebedd o 17,075,400 km², y wlad fwyaf o lawer yn y byd yw Rwsia, gan orchuddio bron ddwywaith arwynebedd y wlad ail fwyaf, sef Canada. Mae gan Rwsia adnoddau enfawr mwynau ac ynni, yn ogystal â'r boblogaeth nawfed fwyaf yn y byd. Mae Rwsia yn rhannu ffiniau tir â'r gwledydd canlynol (yn wrthglocwedd, o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain): Norwy, y Ffindir, Estonia, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Belarws, Wcrain, Georgia, Aserbaijan, Casachstan, Tsieina, Mongolia a Gogledd Corea. Mae hi hefyd yn agos i'r Unol Daleithiau (talaith Alaska), Sweden a Siapan dros gulforoedd eithaf cul (Culfor Bering, y Môr Baltig, a Chulfor La Pérouse, yn ôl eu trefn).

Gynt yn Weriniaeth Sofietaidd Ffederal Sosialaidd Rwsia (GSFfSR), gweriniaeth o'r Undeb Gweriniaethau Sofietaidd Sosialaidd (UGSS), daeth Rwsia yn Ffederasiwn Rwsia yn sgil diddymiad yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991. Ar ôl y cyfnod Sofietaidd, trosglwyddwyd arwynebedd, poblogaeth a chynhyrchiad diwydiannol a oedd wedi'u lleoli yn Rwsia i Ffederasiwn Rwsia.

Ar ôl ymddatodiad yr Undeb Sofietaidd, daeth Ffederasiwn Rwsia newydd annibynnol yn bŵer mawr, ac ystyrir hefyd bod y wlad yn archbŵer ynni. Ystyrir bod Rwsia yn wladwriaeth olynydd i'r Undeb Sofietaidd mewn materion diplomyddol. Aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yw hi. Mae hefyd yn un o'r pum gwladwriaeth sydd ag arfau niwclear wedi'u cydnabod, ac mae'n meddu ar y stoc fwyaf o arfau eangddinistr yn y byd. Cenedl arweiniol o Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol yw Rwsia, ac mae'n aelod o'r G8 yn ogystal â chyrff rhyngwladol eraill.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in