Enghraifft o'r canlynol | gorsaf deledu, darlledwr |
---|---|
Cysylltir gyda | Huw Jones |
Dechrau/Sefydlu | 1982 |
Perchennog | Awdurdod S4C |
Prif weithredwr | Owen Evans |
Pencadlys | Caerfyrddin |
Enw brodorol | Sianel Pedwar Cymru |
Gwefan | https://s4c.cymru/en/, https://s4c.cymru/cy/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Darlledwr sy'n darparu gwasanaethau teledu yn y Gymraeg yw Sianel Pedwar Cymru neu S4C. Dechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd 1982. SuperTed oedd y rhaglen gyntaf i'w ddarlledu ar S4C.[1]
Sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981. Cychwynodd y sianel wreiddiol ar deledu analog yn 1982, lle roedd yn gyfrifol am ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn ystod oriau brig a rhaglenni Channel 4 am weddill yr amser. Yn dilyn y newid i deledu digidol, daeth yn sianel uniaith Gymraeg. Nid yw S4C yn cynhyrchu rhaglenni ei hun, ond yn eu comisiynu oddi wrth gwmnïau annibynnol. Yn yr 1980au cafodd y sianel enw da am gomisiynu cartwnau a ddaeth yn llwyddiannau byd-eang megis SuperTed, Sam Tân, Shakespeare - The Animated Tales. Mae'r sianel hefyd yn nodedig am ddramau o safon uchel sydd wedi llwyddo yn rhyngwladol, yn cynnwys Y Gwyll, 35 Diwrnod ac Un Bore Mercher. Mae rhaglenni chwaraeon yn denu nifer fawr o wylwyr i'r sianel ac er y gystadleuaeth frwd am hawliau chwaraeon gan sianel masnachol, mae S4C yn ceisio darparu amrywiaeth o chwaraeon yn cynnwys pêl-droed a rygbi.
Goruwchwylir y gwasanaeth gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan. Roedd yr adran yn arfer ariannu'r sianel yn llawn ond ers 2010 torrwyd y grant i tua £6.8m y flwyddyn a daw gweddill cyllid S4C drwy'r BBC a'r drwydded deledu. Mae S4C hefyd yn derbyn arian am werthu hysbysebion ond bu gostyngiad yn lefel yr incwm o hysbysebu wrth i wylwyr droi at ddulliau digidol o dderbyn eu gwasanaethau teledu, gan mai dim ond ar analog yr oedd S4C yn gallu gwerthu hysbysebion o gwmpas rhaglenni Saesneg Channel 4. Ar ôl diffodd analog mae'r Sianel yn ceisio incwm masnachol o sawl ffynhonnell yn cynnwys hysbysebion ar y teledu ac ar wasanaethau arlein; drwy bartneriaethau masnachol; gwerthiant rhaglenni a chyd-gynhyrchu ac ecwiti mewn prosiectau a chwmniau digidol.[2]
Mae'r BBC yn cyflawni ei ddyletswydd gyhoeddus trwy gynhyrchu deg awr o raglenni bob wythnos, gan gynnwys rhaglenni poblogaidd megis Pobol y Cwm a Newyddion. Fel gweddill gwasanaethau cyhoeddus y BBC, mae'r rhain yn cael eu hariannu drwy'r drwydded deledu.