Arwyddair | Gold in Peace, Iron in War |
---|---|
Math | charter city and county, dinas yn yr Unol Daleithiau, dinas fawr, sanctuary city |
Enwyd ar ôl | Ffransis o Assisi |
Poblogaeth | 873,965 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | London Breed |
Cylchfa amser | UTC−08:00, UTC−07:00, Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel |
Gefeilldref/i | Zürich, Abidjan, Burgas, Caracas, Sydney, Thessaloníci, Taipei, Corc, Haifa, Dinas Ho Chi Minh, Manila, Osaka, Seoul, Shanghai, Vladivostok, Addis Ababa, Assisi, Bangalore, Bwcarést, Caltagirone, Valparaíso, Napoli, Alassio, Belém, Lisbon, Amman, Tref y Penrhyn, Kraków, Ischia, Paris, Kiel, Barcelona, Callao |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Bae San Francisco, San Francisco–San Mateo–Redwood City metropolitan division |
Sir | Califfornia |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 600.592202 km², 600.59028 km² |
Uwch y môr | 30 metr |
Gerllaw | Bae San Francisco, Y Cefnfor Tawel, Golden Gate |
Yn ffinio gyda | Sausalito, Richmond, Alameda, Brisbane, Daly City |
Cyfesurynnau | 37.775°N 122.4194°W |
Cod post | 94110, 94103, 94133, 94107, 94109, 94108, 94105, 94116 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | San Francisco Board of Supervisors |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer San Francisco |
Pennaeth y Llywodraeth | London Breed |
Sefydlwydwyd gan | José Joaquín Moraga, Francisco Palóu |
Dinas a sir yng Nghaliffornia yn Unol Daleithiau America yw San Francisco (Dinas a Sir San Francisco). Dyma yw'r bedweredd ddinas mwyaf poblog yng Nghaliffornia a'r drydedd ddinas ar ddeg mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau, gyda 744,230 o bobl yn byw yn y ddinas a 7,533,384 o bobl yn byw yn Ardal Bae San Francisco. San Francisco yw'r ddinas gyda'r dwysedd poblogaeth fwyaf yn y dalaith a'r ddinas gyda dwysedd ail fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Lleolir y ddinas ar ben pellaf penrhyn San Francisco, gyda'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin iddi a Bae San Francisco i'r gogledd a'r dwyrain.
Ym 1776, sefydlodd y Sbaenwyr amddiffynfa wrth y Golden Gate a chenhadaeth a enwyd ar gyfer Ffransis o Assisi. Yn sgîl y Rhuthr am Aur ym 1849, aeth y ddinas trwy gyfnod o dŵf cyflym, a drawsnewidiodd y ddinas nes ei bod y ddinas fwyaf ar yr Arfordir Orllewinol ar y pryd. Ym 1906, cafodd San Francisco ei tharo gan ddaeargryn a thân a chafodd mwy na 3,000 o bobl eu lladd a rhan helaeth o'r ddinas ei dinistrio. Ail-adeiladwyd y ddinas yn gyflym, gan gynnal Arddangosfa Ryngwladol Panama-Pasiffig naw mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, San Francisco oedd y man ffarwelio ar gyfer nifer o filwyr. Pan ddaeth y rhyfel i ben, arweiniodd y don o filwyr yn dychwelyd, mewnfudiad enfawr, agweddau rhyddfrydol, a ffactorau eraill at yr Haf o Gariad a'r mudiad hawliau hoyw, gan gadarnhau statws San Francisco fel canolfan rhyddfrydol yn yr Unol Daleithiau.
Erbyn heddiw, mae San Francisco yn ganolfan ryngwladol o ran y byd ariannol, cludiant a diwylliant. Mae'r ddinas hefyd yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i dwristiaid sy'n enwog am ei niwl hafaidd, ei bryniau serth niferus, ei chymysgedd o bensaernïaeth Fictoraidd a modern, ei thirnodau bydenwog fel Pont Golden Gate, ei cherbydau ceblau a Thref Tsieina.