Sandi Toksvig | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mai 1958 Copenhagen |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Brenhiniaeth Denmarc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | digrifwr, cyflwynydd radio, llenor, gwleidydd, cyflwynydd teledu, byrfyfyriwr, actor, gweithredydd gwleidyddol |
Adnabyddus am | The News Quiz, The Great British Baking Show, QI, No. 73 |
Taldra | 1.52 metr |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cydraddoldeb Menywod |
Tad | Claus Toksvig |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | https://sanditoksvig.com/ |
Mae Sandra Birgitte "Sandi" Toksvig OBE (ganed 3 Mai 1958) yn ysgrifenwraig, actores, comedïwraig, cyflwynwraig, cynhyrchwraig radio a theledu, a gweithredwr gwleidyddol Seisnig-Ddanaidd.
Fe'i hadnabyddir am gyflwyno The News Quiz ar BBC Radio 4 o 2006 i fis Mehefin 2015, yn ogystal â'r sioe gwis 1001 Things You Should Know ar Channel 4 rhwng 2012 a 2013, ac ailwampiad o'r rhaglen Fifteen to One o Ebrill 2014 ymlaen ar yr un sianel. Yn 2016, cymerodd le Stephen Fry fel cyflwynydd cwis teledu y BBC QI. Yn 2017 ymunodd gyda Noel Fielding i gyd-gyflwyno y sioe The Great British Bake-Off wedi iddo symud o'r BBC i Channel 4, gan adael ar ddiwedd cyfres 2019.
Hi yw cyd-sylfaenydd y Blaid Gydraddoldeb i Ferched (sefydlwyd ym mis Mawrth 2015). Mae wedi bod yn Ganghellor Prifysgol Portsmouth ers mis Hydref 2012, yn ogystal â gwasanaethu fel llywydd presennol y Ginio Ferched y Flwyddyn.