Sarn Helen ger Dolwyddelan | |
Math | ffordd, safle archaeolegol, ffordd Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.282°N 3.828°W |
Defnyddir yr enw Sarn Helen, neu weithiau Sarn Elen, am y ffordd Rufeinig oedd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol Cymru o gaer Canovium (Caerhun) yn y gogledd hyd gaer a thref Maridunum (Caerfyrddin) yn y de. Credir fod yr enw yn dod o enw Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig yn ôl y chwedl. Mae'r ffordd o Gaerhun i Gaerfyrddin tua 160 milltir o hyd.
Nid oes olion i'w gweld o ran gyntaf y ffordd ar ôl gadael Caerhun, ond credir ei bod yn dilyn glan orllewinol Afon Conwy cyn belled â Threfriw, lle mae'n rhannu. Mae'r brif fforch yn arwain dros y bryniau i Betws y Coed, tra mae'r llall yn arwain ar gaer fechan Caer Llugwy. Gellir gweld rhai olion o'r brif ffordd wedi iddi rydio Afon Llugwy, yn dringo dros y bryniau tua Dolwyddelan. Mae'n rhedeg ar hyd Cwm Penamnen a heibio rhan uchaf Cwm Penmachno. Gerllaw Ffestiniog mae'r ffordd i'w gweld yn eglur am dros ddwy filltir wrth arwain tuag at gaer Tomen y Mur.
Credir ei bod wedi dilyn llinell y ffordd bresennol heibio Trawsfynydd. Mae'n debygol ei bod yn pasio'n agos i safle'r gar fechan yn y Brithdir, ger Dolgellau, sy'n sefyll ar y ffordd Rufeinig i/o Gaer Gai, ger Llyn Tegid, a Chaer. Er nad oes olion, credir ei bod wedi cadw at ochr ddwyreiniol Cadair Idris nes cyrraedd caer fechan Pennal. Efallai fod rhan o'r lein bach rhwng Aberllefenni a Maespoeth yn dilyn cwrs y ffordd Rufeinig.
Nid oes sicrwydd lle'n union yr oedd cwrs y ffordd i'r de o Bennal, ond gellir gweld rhan ohoni ger pentref Lledrod yn Sir Aberteifi, ar ei ffordd tua'r gaer yn Llanio. Yn Llanfair Clydogau mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain heibio Llanymddyfri a Dolaucothi i Nidum (Castell Nedd), a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.