Enghraifft o'r canlynol | angel syrthiedig, creadur goruwchnaturiol, diafol, jinn |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bod goruwchnaturiol sy'n ymgorfforiad o ddrygioni a gelyniaeth yw Satan (Hebraeg: הַשָׂטָן, ha-Satan, "y cyhuddwr"; Arabeg: الشيطان, al-Shaitan, "y gelyn"). Angel yw Satan yn ôl Cristnogaeth ac Iddewiaeth, ond ellyll (neu Jinni) yw Satan yn ôl Islam. Mae'r enw heddiw yn gyfystyr â "Diafol", ond mewn Islam mae'r gair hefyd yn gyfystyr â "chythraul" a darllenir yn y Coran am "satanau" yn ogystal â "Satan". Mae Satan yn chwarae rôl bwysig mewn Cristnogaeth fel ymgnawdoliad o ddrygioni a gelyn Duw (er ei fod yn ddarostyngedig i ewyllys Duw) a dynoliaeth ac arweinydd yr angylion drwg sy'n preswylio yn uffern. Mae Satan a'i gynghreiriaid yn temtio dynion i berfformio gweithredoedd drygionus (neu "bechodau") a hefyd yn cosbi eneidiau pechaduriaid ar ôl iddynt gael eu hanfon i uffern.