![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 4,430, 5,050 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Perth a Kinross ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 56.4179°N 3.404°W ![]() |
Cod OS | NO134259 ![]() |
Cod post | PH, PH2 ![]() |
![]() | |
Tref yn awdurdod unedol Perth a Kinross, yr Alban, yw Scone[1] (Gaeleg yr Alban: Sgàin)[2] neu New Scone.
Saif Palas Scone y tu allan i'r dref, a safai Abaty Scone (a ddinistiwyd erbyn hyn) gerllaw. Yn yr Oesoedd Canol tyfodd tref o amgylch yr abaty a'r breswylfa frenhinol, ond gadawyd yr anheddiad hwnnw yn gynnar yn y 19g pan symudwyd y trigolion ac adeiladwyd palas newydd ar ei safle. Sefydlwyd y dref fodern ar safle newydd ym 1805. Fe'i gelwid yn wreiddiol yn "New Scone", ond ers 1997 fe'i gelwir yn swyddogol yn "Scone".
Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 4,430 gyda 84.33% o’r rheiny wedi’u geni yn yr Alban a 11.53% wedi’u geni yn Lloegr.[3]