Yn ogystal â bod yn siâp geometrig pedair ochr, mae'r term wedi'i sgwario[1] o fewn algebra yn ddull o luosi rhif gydag ef ei hun. Mae sgwario'n gyfystyr â chodi i bŵer 2, ac fe'i nodir gydag uwch-nod e.e. 3 wedi'i sgwario yw 32, sef 9. Fel y gwelir yn y diagram ar y dde, daw'r term o'r dull o gyfrifo arwynebedd sgwâr pan rydym yn gwybod hyd ei ochrau.
Mewn cod cyfrifiadurol, ceir dull arall o nodi hyn, sef drwy ddefnyddio testun plaen; mae x2 mewn cyfrifiadureg, felly'n cael ei nodi fel y nodiant x^2 neu x**2.
Yr ansoddair am sgwario rhif yw 'cwadratig'.
I gyfrifo 5 wedi ei sgwario, gellir meddwl am sgwâr, gyda hyd ei ochrau'n 5 metr, yna
5 m x 5 m = 25 m2 felly, 5 wedi ei sgwario yw 25.
Mae'r weithredo sgwario yn aml yn cael ei gyffredinoli i bolynominalau, mynegiannau eraill neu werthoedd mewn systemau mathemategol sydd y tu hwnt i rifau. Er enghraifft, sgwâr y polynoliminal llinol x + 1 yw'r polynominal cwadratig (x+1)2 = x2 + 2x + 1.