Siân Gwenllian AS | |
---|---|
Aelod o Senedd Cymru dros Arfon | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 5 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Alun Ffred Jones |
Mwyafrif | 8,652 |
Manylion personol | |
Ganwyd | Mehefin 1956 Gwynedd |
Cenedl | Cymraes |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Plant | 4 |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Caerdyddv |
Gwaith | Aelod o Senedd Cymru |
Gwefan | partyofwalesarfon.org |
Gwleidydd, cyn-newyddiadurwr ac Aelod o'r Senedd ar ran plaid Cymru yw Siân Gwenllian (ganwyd Mehefin 1956); mae'n cynrychioli etholaeth Arfon ers Mai 2016.[1] Fe'i hail-etholwyd yn 2021 gyda chanran uwch o’r bleidlais nag unrhyw ymgeisydd arall drwy Gymru benbaladr.
Cyn cael ei hethol i'r Cynulliad bu'n Gynghorydd Sir Gwynedd, dros etholaeth y Felinheli. Rhwng 2010 - 2012 roedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod. Rhwng 2012 - 2014 bu'n aelod y cabinet addysg, arweinydd plant a phobol ifanc ac yn ddirprwy arweinydd y cyngor. Yn 2014, fe'i gwnaed yn Hyrwyddwr Busnesau Bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector yn economi Gwynedd.