Y cytundeb a sefydlodd y Cenhedloedd Unedig yw'r Siarter y Cenhedloedd Unedig. Llofnodwyd y siarter yn San Francisco, Unol Daleithiau America, ar 26 Mehefin 1945 gan 50 o'r 51 aelod-wladwriaethau gwreiddiol (llofnododd Gwlad Pwyl y cytundeb ddau fis yn ddiweddarach). Cafodd y Siarter ei gadarnhau gan y pum aelod gwreiddiol o'r Cyngor Diogelwch a daeth i rym ar 26 Medi 1945.[1] Y pum aelod oedd Tsieina, Ffrainc, yr Undeb Sofietaidd, y Deyrnas Unedig a'r UDA.
Mae pob gwladwriaeth a arwyddodd y cytundeb wedi cytuno i weithredu o fewn erthyglau'r cytundeb. Yn ogystal, dywed Erthygl 103 o'r Siarter fod y cenhedlodd a'i harwyddodd yn ei osod uwchlaw pob cytundeb arall, ac felly wedi'u rhwymo iddo.[2] Erbyn 2017 roedd bron pob cenedl ar wyneb y Ddaear wedi ymrwymo i'w amodau.
|deadurl=
ignored (help)