Sinsir

Sinsir
Sunsur
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Zingiberales
Teulu: Zingiberaceae
Genws: Zingiber
Rhywogaeth: Z. officinale
Enw deuenwol
Zingiber officinale
L.

Planhigyn lluosflwydd llysieuol trofannol yw sinsir neu sunsur (Lladin: Zingiber officinale); defnyddir ei wreiddgyffion (neu risomau) sych fel perlysieuyn neu lysieuyn llesol.

Mae ei goesyn corsennaidd yn tyfu tua metr o daldra'n flynyddol ac mae ganddo ddail gwyrdd a blodau melynwyrdd. Mae'n frodorol o dde Tsieina ond lledaenodd i Asia ac yna i Orllewin Affrica a'r Caribi.[1] Cychwynnwyd allforio sinsir i Ewrop o India yn ystod y ganrif gyntaf O.C.[1][2] Bellach, India yw prif gynhyrchydd sinsir.[1]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Spices: Exotic Flavors & Medicines: Ginger". Cyrchwyd 2 Mai 2014.
  2. "What are the benefits of ginger?". Medical News Today. 29 Awst 2014. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy