Sioe Frenhinol Cymru neu ar lafar: Sioe Llanelwedd yw sioe amaethyddol fwyaf Ewrop. Fe'i trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac fe'i cynhelir ym mis Gorffennaf ar faes ym mhentref Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt, Powys.
Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn 1904, ac oherwydd ei lwyddiant, prynnwyd tir yn Llanelwedd ar ei gyfer yn 1963.
Ni chynhaliwyd sioe yn 1915-18, yn 1940-45 nac yn 2020 (sioe dros y we).
Darlledir yn fyw o'r maes gan S4C bob blwyddyn.