Siop

Arwydd Cymraeg ar ffenest siop.

Adeilad lle yr adwerthir nwyddau neu/a gwasanaethau yw siop. Daw'r gair Cymraeg o'r Saesneg Canol shop[pe], ond ceir hefyd fathiad Cymraeg: masnachdy. Ceir sawl math o siop ac maen nhw'n chwarae rhan annatod o fywyd yn y cyfnod modern. Ond ni cheir siopau ymhob cyfnod o hanes. Datblygodd siopau gyda thyfiant cylchrediad arian bath a datblygu'r fasnach economaidd yn nhrefi a dinasoedd yr Henfyd. Erbyn heddiw ceir amrywiaeth eang o siopau mawr a bach, o'r siop gornel mewn pentrefi i archfarchnadoedd anferth sy'n gwerthu pob dim dan haul bron.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy