Mae siop lyfrau Cymraeg neu ar lafar siop Gymraeg yn cyfeirio at siop sy'n gwerthu llyfrau a nwyddau Cymraeg a Chymreig e.e. cerddoriaeth Gymraeg, cardiau cyfarch Cymraeg, crefftau Cymreig a llyfrau Saesneg ar Gymru. Ddiwedd y 1960au a dechrau'r 70au sefydlwyd nifer ohonynt ar hyd a lled Cymru. Roedd siopau llyfrau Cymraeg yn bod cyn hynny, y rhan fwyaf ohonynt mewn trefi colegol, er nad i gyd, a'r rhan fwyaf yn gwerthu llyfrau Cymraeg yn unig. Ond erbyn diwedd 1960au'r ganrif roedd nwyddau eraill Cymraeg ar gael, er yn brin iawn.
Roedd Sais o'r enw Rooksby [angen ffynhonnell] wedi prynu siop yng Nghaernarfon ac wedi gweld fod galw am gardiau Cymraeg. Roedd e wedi bod yn arwerthwr cardiau i gwmniau yn Lloegr. Aeth atynt a threfnu argraffu'r cardiau Cymraeg yr un pryd a'r rhai Saesneg ac felly yn ei gwneud yn gystadleuol o ran pris. Hefyd roedd cwmniau recordio wedi eu sefydlu - Welsh Teldisc, gan John Edwards, Recordiau Cambrian gan Jo Jones, a Recordiau'r Dryw gan Aneirin Talfan Davies ac Alun Talfan Davies a oedd yn berchen ar Lyfrau'r Dryw.