Sir Ddinbych yng Nghymru (cyn 1974) | |
Math | siroedd hynafol Cymru |
---|---|
Enwyd ar ôl | Dinbych |
Poblogaeth | 228,781 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Sir Feirionnydd, Sir Gaernarfon, Sir y Fflint, Swydd Gaer, Swydd Amwythig, Sir Drefaldwyn |
Cyfesurynnau | 53.125°N 3.406°W |
Daearyddiaeth | |
1831 Tiriogaeth | 386,052 acr (1,562.30 km2) |
1911 Tiriogaeth | 426,084 acr (1,724.30 km2)[1] |
1961 Tiriogaeth | 427,978 acr (1,731.97 km2)[1] |
Pencadlys | Dinbych a Rhuthun |
Côd Chapman | DEN |
Hanes | |
Demograffeg | |
---|---|
1831 poblogaeth - 1831 dwysder |
83,629[2] 0.2/acre |
1911 poblogaeth - 1911 dwysder |
144,783[1] 0.3/acre |
1961 poblogaeth - 1961 dwysder |
174,151[1] 0.4/acre |
Gwleidyddiaeth | |
Llywodraeth | Cyngor sir Ddinbych (1889-1974) |
Roedd Sir Ddinbych yn un o’r 13 sir hanesyddol yng Nghymru a bodolai cyn adrefnu llywodraeth leol ar 1 Ebrill 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Roedd yn cael ei ffinio i'r gogledd gan Fôr Iwerddon, i'r dwyrain gan Sir y Fflint, Swydd Gaer a Swydd Amwythig, i'r De gan Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd ac i'r Gorllewin gan Sir Gaernarfon.
Daeth yr hen Sir Ddinbych i ben gyda chreu'r sir newydd Clwyd ym 1974. Crëwyd sir newydd o'r enw Sir Ddinbych ym 1996 ond gyda ffiniau tra gwahanol i'r sir hanesyddol.