Math | siroedd hynafol Cymru, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Prifddinas | Caerdydd |
Poblogaeth | 1,321,256 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Sir Gaerfyrddin, Sir Frycheiniog, Sir Fynwy |
Cyfesurynnau | 51.6667°N 3.6667°W |
Roedd Sir Forgannwg (Saesneg: Glamorgan) yn un o 13 o siroedd Cymru cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Cyfatebai'n fras i diriogaeth Teyrnas Morgannwg.
Roedd yn ffinio ar Sir Frycheiniog yn y gogledd, ar Sir Fynwy yn y dwyrain, ar Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin, a Môr Hafren ydyw'r terfyn deheuol. Roedd ei harwynebedd yn 2100 km², a'i phoblogaeth uchaf tua 1,220,000. Craig y Llyn ydyw'r pwynt uchaf (600m) yn yr ardal.
|