Sir Frycheiniog (etholaeth seneddol)

Roedd Sir Frycheiniog yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd at 1918.

Crëwyd Etholaeth Sir Frycheiniog o dan Ddeddf Uno 1536, gan ddychwelyd ei AS gyntaf ym 1542. Mae'r etholaeth yn cynnwys sir hanesyddol Sir Frycheiniog. Enw'r etholaeth yn Saesneg yw Brecknockshire neu Breconshire (dylid gochel rhag drysu'r enw Saesneg efo Brecon sef enw etholaeth bwrdeistref Aberhonddu, a oedd yn ethol AS ar wahân i'r un sirol.) Am y rhan fwyaf o'i bodolaeth roedd yr etholaeth yn ethol un aelod i'r Senedd ac eithrio am gyfnod rhwng 1654 i 1659 pan etholwyd dau aelod i gynrychioli’r sir.[1] Diddymwyd yr etholaeth ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 pan unwyd etholaethau Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed i greu etholaeth newydd Brycheiniog a Maesyfed

  1. http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1509-1558/constituencies/wales adalwyd Ion 5 2014

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy