Pobl Slafonig sy'n byw yng ngogledd orllewin y Balcanau yw'r Slofeniaid. Cyn 1918 roedd y mwyafrif ohonynt yn byw yn yr Ymerodraeth Habsbwrgaidd. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf daethant yn un o genhedloedd Iwgoslafia hyd at annibyniaeth Slofenia ym 1991. Mae'r mwyafrif helaeth o Slofeniaid yn Babyddion.[1] Maent yn siarad yr iaith Slofeneg.