Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 865, 805 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,499.18 ha |
Cyfesurynnau | 51.8744°N 5.1889°W |
Cod SYG | W04000474 |
Cod OS | SM802243 |
Cod post | SA62 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref glan-môr a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Solfach[1] (hefyd Solfa, Saesneg: Solva). Saif yng ngorllewin y sir, tua 3 milltir i'r dwyrain o Dyddewi, mewn gilfach môr ar Fae Sain Ffraid, ar aber Afon Solfach. Mae'r pentref yn cynnwys Solfach Isaf a Solfach Uchaf. Mae'r cymuned yn cynnwys y pentrefi Solfach, Tre-groes a Felin Ganol.
Mae ganddo harbwr ardderchog a bu'n ganolfan masnach arfordirol am ganrifoedd. Fe'i lleolir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Heddiw mae'r pentref yn ganolfan hwylio a gwyliau glan-môr poblogaidd. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]