Solomana Kante

Solomana Kante
Ganwyd1922 Edit this on Wikidata
Kankan, Q116694660 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1987 Edit this on Wikidata
Conakry Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGini Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadAmara Kanté Edit this on Wikidata
MamDiaka Keita Edit this on Wikidata
PriodFanta Cissé, Fanta Bérété Edit this on Wikidata
Map bywyd Sulemaana Kante, dyfeisydd y wyddor N'ko
Bedd Solomana Kante

Solomana Kante neu Souleymane Kante neu Solomana Kanté (192223 Tachwedd 1987) oedd awdur a sgolor Affricanaidd o Gini a dyfeisiwr y wyddor N'Ko ar gyfer yr ieithoedd Manding, Gorllewin Affrica. Golyga N'Ko "rwy'n dweud" yn holl continwwm ieithyddol y tafodieithoedd Manding. Mae'r contimiwwm Manding yn cynnwys tafodieithoedd a elwir yn Bambara, Bolon, Jula, Dioula, Mandinka yng ngwladwriaethau Mali, Gambia, Gini, Arfordir Ifori a gorllewin Bwrcina Ffaso.

Hanai ei deulu o Mali ond ganed Kante ym mhentref Koloni ger Kankan yn Gini. Roedd Kante yn fab i athro ac yn fasnachwr yn y Traeth Ifori oedd yn rhan o ymerodraeth Ffrainc. Yn ôl y sôn yn 1943 cafodd noson o fyfyrio dwys yn sgil yr hyn a deimlai'n sarhad ar ieithoedd brodorol Affrica a'r farn Orllewinol ac o fewn cylchoedd Arabaidd bod yr Affricaniaid yn bobl 'di-ddiwylliant'. Yn ôl y sôn darllenodd Kante bod ysgolhaig o Libanus wedi honni nad oedd modd ysgrifennu mewn ieithoedd Affrica.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy