Stamp

Stamp o Fongolia, 1932
Stamp Cymreig answyddogol a gyhoeddwyd yn 1982 i gofio Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Darn bychan o bapur printiedig, gludog fel rheol, a roddir ar lythyr neu baced i ddangos fod yr anfonydd wedi talu am ei bostio yw stamp. Fe'i cyhoeddir gan wasanaethau post gwladol fel rheol, fel modd i ddangos fod rywun wedi talu am anfon amlen, cerdyn neu eitem arall gyda'r post. Gelwir yr astudiaeth o stampiau yn ffilateliaeth.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy