Stewart Jones | |
---|---|
Ffugenw | Ifas y Tryc ![]() |
Ganwyd | 1928 ![]() Caeredin ![]() |
Bu farw | 2011 ![]() |
Man preswyl | Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | actor ![]() |
Actor o Gymro oedd Stewart Whyte McEwan (1928–2011) neu Stewart Jones fel roedd yn cael ei adnabod.[1] Ganwyd ef yn y Queen Mary's Nursing Home, Caeredin i Adelaide Bremner, ac ei dad oedd David McEwan. Penderfynodd ei rieni eu bod am roi i ffwrdd. Gan fod Robert Henry Jones (o'r llys-enw Cennin) wedi bod yn gweithio yn yr Alban, drwy gyd-ddigwyddiad fe ddaeth y baban i ofal Cennin a'i wraig Rebecca Marr.[2]
Un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus yr arferai ei chwarae oedd Ifas y Tryc a sgwennwyd gan ei gyfaill Wil Sam. Disgrifiwyd ef yn ei rôl fel Ifas y Tryc yn The Independent fel "The part was brilliantly played by the actor Stewart Jones".[3]
Enillodd Stewart Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Enillodd wobr BAFTA Cymru yn 2002 am ei ran yn ffilm Oed Yr Addewid.