SuperTed | |
---|---|
Fformat | Cyfres animeiddiedig |
Crëwyd gan | Mike Young |
Lleisiau | Geraint Jarman Martin Griffiths Valmai Jones Gari Williams Huw Ceredig Emyr Young |
Adroddwyd gan | Dyfan Roberts |
Gwlad/gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg, Saesneg |
Nifer penodau | 36 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 10 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Darllediad gwreiddiol | 1 Tachwedd 1982 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb | |
Proffil TV.com |
Cyfres deledu Gymraeg wedi ei hanimeiddio yw SuperTed, a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1982. Fe'i cynhyrchwyd gan gwmni Siriol ar gyfer S4C (lle cafodd ei ddybio'n Gymraeg), ac yn ddiweddarach, cafodd ei darlledu yn y Saesneg gwreiddiol ar BBC1, ac wedi ei ddybio yn Wyddeleg ar TG4. Enillodd y gyfres amryw o wobrwyau, gan gynnwys BAFTA ar gyfer yr animeiddio gorau yn 1987.
Creadigaeth Mike Young ydy SuperTed. Mae Young yn gweithio yng Nghaliffornia, yr Unol Daleithiau erbyn hyn, ynghyd â'i wraig, Liz. Crewyd SuperTed fel stori amser gwely ar gyfer ei lys-fab, yr oedd arno ofn y tywyllwch. Ail-adroddodd ei lys-fab y straeon pan gyrhaeddodd yr ysgol feithrin a dechreuodd gyrfa newydd Young.[1]